Aflonyddiad Hynod
Problemau aflonyddiad hynod
Mae problem aflonyddiad hynod (yn wahanol i broblem aflonyddiad rheolaidd) yn broblem sy'n cynnwys paramedr bach, ac lle nad yw'n bosibl ei brasamcanu'n unffurf trwy osod y paramedr i sero. Hynny yw, nid yw'n bosibl brasamcanu'r datrysiad yn unffurf gyda'r ehangiad asymptotig
Ar gyfer hafaliadau algebraidd, mae hyn yn aml yn arwain at golli israddau. Hynny yw, mae dull aflonyddiad rheolaidd yn canfod llai o israddau na'r disgwyl.
Ond i le aeth yr isradd coll?
Rydym wedi gweld mewn darlithoedd fod ceisio defnyddio techneg aflonyddiad rheolaidd er mwyn brasamcanu datrysiadau i broblemau aflonyddiad hynod yn achosi i israddau gael eu colli. Ond pam hynny?
Yn y darlithoedd, ystyriwyd yr enghraifft o'r hafaliad gwadratig ag aflonyddiad hynod
Trwy ddefnyddio'r dull arferol (aflonyddiad rheolaidd), esgeulusir y term \(\varepsilon u^2\) wrth edrych ar yr achos terfyn. Mae hyn yn anghywir, gan fod \(u^2\) yn mynd yn fawr iawn ar gyfer un o'r israddau wrth i \(\varepsilon\to 0\), ac felly er bod \(\varepsilon\) yn fach, nid yw \(\varepsilon u^2\) o reidrwydd yn fach.
Sut allwn ni ganfod yr israddau coll?
Gan na wnaeth yr ansats aflonyddiad rheolaidd (h.y. brasamcanu israddau \(x\) fel \(x_0+\varepsilon x_1+\varepsilon^2 x_2+\ldots\)) ddatrys y broblem, mae angen dull newydd. Dylai'r ansats efelychu ymddygiad gwael yr israddau, hynny yw, dylai ddargyfeirio wrth i \(\varepsilon\to 0\). Felly defnyddir yr ansats aflonyddiad hynod
lle mae \(\alpha>0\) yn gysonyn i'w ddewis yn ôl y broblem.
Gelwir y dull ar gyfer dewis \(\alpha\) yn ddull cydbwysedd trechol. Y syniad yw dewis \(\alpha\) fel bod dau (neu fwy) o'r termau yn yr hafaliad o'r un drefn, tra bod y termau eraill o drefn uwch (llai negatif). Gwelwyd sawl enghraifft o hyn yn y nodiadau darlith, gan arwain at y dull systematig o lunio graff Kruskal–Newton.
Graffiau Kruskal–Newton a'u canlyniadau
Defnyddir y rhain i benderfynu pa werthoedd o \(\alpha\) ddylid eu defnyddio i ganfod yr israddau aflonyddiad hynod (h.y. yr israddau a gollir gan y dull aflonyddiad rheolaidd). Mae'r broses yn adnabod gwerthoedd \(p,q\) lle mae'r cyfernodau \(C_{p,q}\) yn ansero pan ysgrifennir yr hafaliad algebraidd yn y ffurf
Plotiwch y pwyntiau \((p,q)\) a darganfyddwch yr holl leoliadau posibl ar gyfer llinell sy'n mynd trwy ddau neu fwy o'r pwyntiau gyda phob pwynt arall yn gorwedd uwchben y llinell.
Bydd goleddau'r llinellau hyn yn rhoi gwerthoedd o \(-\alpha\) (cofiwch yr arwydd minws) i'w defnyddio yn yr ansats aflonyddiad hynod \(x=\varepsilon^\alpha z(\varepsilon)\). Dylid bob amser wirio bod y pŵer o \(\varepsilon\) yn negatif mewn unrhyw ansats aflonyddiad hynod.
Yn olaf, amnewidiwch yr ansats (neu'r ansatsau) i'r hafaliad gwreiddiol, ac yna defnyddiwch ddulliau aflonyddiad rheolaidd ar \(z\). Hynny yw, brasamcanwch \(z\) yn y ffurf